Mae gweddillion mamaliaid a gafodd eu llyncu gan grocodeiliaid, yn dangos math newydd o greaduriaid oedd yn arfer byw yn Ynysoedd y Caiman.

Mae’r esgyrn sydd wedi eu ffosileiddio yn awgrumu fod tair rhywogaeth ‘newydd’ yn arfer byw yn yr ardal dros 300 mlynedd yn ôl.

Mae tîm o swolegwyr dan arweiniad Cymdeithas Sŵoleg Llundain (ZSL), Amgueddfa Hanes Naturiol America, ac Amgueddfa Hanes Naturiol New Mecsico yn astudio’r esgyrn a ddaeth yn wreiddiol o ogofeydd yn y 1930au a’r 1990au.

Yng nghylchgrawn Bwletin Amgueddfa Hanes Naturiol America, mae’r tîm yn disgrifio dau creadur newydd tebyg i lygod mawr – sef Capromys pilorides lewisi a Geocapromys caymanensis.

Roedd y trydydf creadur ychydig yn llai, ac wedi cael yr enw Nesophontes hemicingulus.

Mae’r rhain yn unigryw i Ynysoedd y Caiman.

Yn ôl y gwyddonwyr, roedd y creaduriaid wedi diflannu o gwmpas y 1700au o ganlyniad i gyrhaeddiad setlwyr o Ewrop gyda llygod, cathod a chŵn.

  L