Mae’r Pab Francis wedi ailagor archifau sy’n ymwneud â Pius XII, a oedd yn Bab yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn sgil cyhuddiadau gan Iddewon fod y pontiff wedi cadw’n dawel adeg yr Holocost.

Mae pennaeth presennol yr Eglwys Gatholig wedi gorchymyn swyddogion Archifau Cyfrinachol y Fatican i sicrhau bod dogfennau ar gael i ymchwilwyr o Fawrth 2, 2020 ymlaen.

Cafodd Pius XII ei ethol yn Bab ar Fawrth 2, 1939, chwe mis cyn i’r rhyfel yn Ewrop gychwyn. Bu farw ar Hydref 9, 1958 yng nghartref haf y Fatican yn Castel Gandolfo, ger Rhufain.

Gan amlaf, mae’r Fatican yn aros 70 mlynedd wedi marwolaeth pab cyn agor archifau, ond mae Pab Francis o dan bwysau i agor rhai Pius XII cyn gynted â phosib tra bo goroeswyr yr Holocost yn dal i fod ar dir y byw.

Roedd archifwyr y Fatican eisoes wedi cychwyn paratoi’r dogfennau ar gyfer ymgynghoriad yn 2006, a hynny o dan orchymyn y pab ar y pryd, Benedict XVI.

Dros y blynyddoedd, mae’r Fatican wedi amddiffyn gyrfa Pius XII, gan ddweud iddo geisio achub bywydau trwy weithio yn y cefndir.

Mae’r Pab Francis wedi dilyn y safbwynt hwnnw, ac mae’n obeithiol y bydd y Pabaeth yn goroesi unrhyw ganfyddiadau gan haneswyr yn yr archifau hanesyddol.