Mae Rwsia yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn pedwar cwmni yn y Dwyrain Pell sydd wedi sefydlu “carchardai morfilod” er mwyn ceisio dal y mamaliaid.

Mae’r cwmnïau, sydd â chysylltiadau a’i gilydd, wedi cael eu dirwyo o’r blaen am ddal morfilod a’u gwerthu i barciau anifeiliaid dramor.

Yn ôl amgylcheddwyr mae’r “carchardai” hyn yn cadw tua chant o forfilod mewn pyllau bach ger Vladivostock, ac maen nhw’n galw ar i’r morfilod gael eu rhyddhau ar unwaith.

Dim ond rhai mathau o forfilod sy’n gyfreithlon i’w dal yn Rwsia, ac mae hynny ar gyfer rhesymau gwyddonol.