Mae arweinydd yr wrthblaid yn Feneswela, Juan Guaido, wedi galw ar y gymuned ryngwladol i ystyried “pob opsiwn” wrth geisio datrys argyfwng y wlad.

Mae hyn yn adleisio sylwadau Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, sydd wedi cynnig anfon lluoedd ei wlad yno.

Daeth sylwadau Juan Guaido yn dilyn gwrthdaro treisgar ddoe (Dydd Sul, Chwefror 24) pan fu lluoedd yr Arlywydd Nicolas Maduro yn defnyddio nwy dagrau i geisio atal pobl rhag cludo cyflenwadau dyngarol i bobol Feneswela.

Cafodd dau berson eu lladd a tua 300 eu hanafu yn y gwrthdaro.

Ers wythnosau, mae’r Unol Daleithiau a gwledydd eraill wedi bod yn rhoi bwyd a chymorth meddygol i bobol Feneswela.

Gyda’r Llywodraeth yn atal protestwyr rhag darparu’r rhain, mae Juan Guaido yn dweud ei fod yn ehangu ei apêl i’r gymuned ryngwladol.

Mae ganddo gyfarfod heddiw ym mhrifddinas Colombia, Bogotá, gydag is-lywydd yr Unol Daleithiau, Mike Pence, i drafod argyfwng y wlad.