Mae Kim Jong Un, arweinydd Gogledd Corea, ar ei ffordd i Fietnam i gyfarfod â Donald Trump, arlywydd yr Unol Daleithiau.

Byddan nhw’n cynnal trafodaethau yn Hanoi ddydd Mercher (Chwefror 27).

Dyma’r ail waith iddyn nhw gyfarfod ar gyfer uwchgynhadledd.

Cafodd ei groesawu i orsaf Pyongyang gan filwyr Gogledd Corea wrth iddo adael am Fietnam.

Daeth yr uwchgynhadledd gyntaf rhwng y ddau i ben fis Mehefin diwethaf heb gytundeb ar waredu arfau niwclear Gogledd Corea.

Mewn neges ar ei dudalen Twitter, mae Donald Trump yn awgrymu ei fod yn disgwyl “cynnydd” yn y trafodaethau, a allai arwain yn y pen draw at ddadniwcleareiddio’r wlad yn llwyr.

Cynlluniau Kim Jong Un

Mae cynlluniau teithio Kim Jong Un fel arfer yn cael eu cadw’n gyfrinachol.

Fe allai’r daith o filoedd o filltiroedd o Ogledd Corea i Fietnam drwy Tsieina gymryd deuddydd.

Fe fydd yn ymweld â nifer o lefydd yn Fietnam dros y dyddiau nesaf yn dilyn gwahoddiad gan Nguyen Phu Trong, arlywydd y wlad.