Mae awdurdodau Bangladesh wedi atal dyn rhag herwgipio awyren ar ei ffordd i Dubai.
Fe fu’n rhaid i’r awyren lanio ar frys yn Chittagong yn dilyn y digwyddiad, ac fe gafodd y dyn ei saethu’n farw ar ôl gofyn am gael siarad â phrif weinidog y wlad.
Chafodd neb arall ei anafu yn y digwyddiad ar awyren Biman Bangladesh.
Mae milwyr bellach yn gwarchod maes awyr Shah Ananta.