Mae nifer o bobol wedi cael eu claddu mewn eirlithriad yn Awstria, ger y ffin â’r Almaen, yn ôl adroddiadau.

Cyhoeddodd y cwmni darlledu Almaenaidd BR fod y cwymp eira wedi taro heddiw a bod ymgais achub wedi dechrau yn nhref Awstraidd Reutte.

Dywed BR fod nifer o ffyrdd wedi eu rhwystro a bod gweithwyr argyfwng wedi cael eu hanfon i’r drychineb mewn hofrenyddion.

Mae ymladdwyr tân, yr heddlu a chŵn achub hefyd ar y safle, yn chwilio am bobol sy wedi cael eu claddu yn yr eira.

Ar hyn o bryd mae’n anodd ceisio cael ymateb gan yr heddlu yn Reutte i gael gwybod y diweddaraf.