Mi fydd dau ddaearyddwr o Brifysgol Aberystwyth yn mynd i Batagonia yn yr Ariannin fis nesaf i greu cysylltiadau ymchwil agosach gyda’r rhanbarth.

Yr Athro Stephen Tooth a Dr Hywel Griffiths, sy’n dysgu yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Dear y Brifysgol fydd yn gwneud y daith.

Mae’r ddau wedi derbyn Grant Cysylltiadau Addysg Uwch gan y Cyngor Prydeinig i ddatblygu cysylltiadau gydag ymchwilwyr yn Universidad Nacional de la Patagonia San Juan BoscoPrifysgol Genedlaethol Patagonia.

Eu bwriad yn ystod y daith fydd cynnal cyfres o weithdai a sgyrsiau gydag academyddion, swyddogion y llywodraeth, myfyrwyr prifysgol ac addysg uwch, ynghyd â’r Gymdeithas Gymraeg yno.

Bydd y ddau yn canolbwyntio ar ardaloedd yn nwyrain Patagonia lle mae’r Sbaeneg a’r Gymraeg yn cael eu siarad.

Mae’r rhain yn cynnwys campysau Universidad Nacional de la Patagonia yn  Nhrelew a Phorth Madryn.