Mae arlywydd Kazakhstan wedi rhoi’r sac i lywodraeth y wlad, dros yr hyn y mae o’n ei alw’n “fethiant” i godi safonau byw a symud i ffwrdd oddi wrth ddefnyddio olew a nwy.

Mae Nursultan Nazarbayev wedi bod yn arwain y wlad byth ers iddi ddod yn annibynnol yn 1991, ac mae’n addo ar ei wefan y bydd yn cyflwyno cyfres o fesurau yn fuan iawn er mwyn cryfhau’r wladwriaeth les a chodi safonau byw pobol.

Mae’n dweud hefyd y bydd yn canolbwyntio ar y gwaith o helpu’r tlodion, gan wella’u hamodau byw.

Fe ddaw’r cyhoeddiad diweddara’ hwn yn dilyn ton o protestiadau gan ferched y wlad yn galw am fwy o gefnogaeth ariannol i blant, ac am dai o well ansawdd wedi i dâb ladd pump o blant yn ddiweddar.