Mae protestwyr yng ngwlad Pwyl wedi tynnu cerflun o offeiriad adnabyddus i lawr, yn dilyn honiadau ei fod wedi cam-drin plant yn rhywiol.

Daw’r protest wrth i’r Pab gyfarfod ag arweinwyr yr Eglwys Gatholig yn y Fatican er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r argyfwng sy’n wynebu’r sefydliad o ran camdriniaeth rywiol.

Mae clip fideo yn dangos tri dyn yn gosod rhaff o gwmpas cerflun y diweddar Fonsignor Henryk Janowski yn ninas Gdansk yng ngogledd gwlad Pwyl.

Mae’r fideo wedyn yn eu dangos nhw’n ei dynnu i lawr liw nos, ac yna’n gosod dillad isaf a dillad eglwysig plant arno fel symbol o’r rheiny a ddioddefodd o dan law’r Monsignor.

Mewn gwlad lle mae mwy na 90% o’r boblogaeth yn ystyried eu hun yn Gatholig, mae’r weithred yn cael ei hystyried yn un syfrdanol.

Yn ôl yr heddlu, mae’r tri dyn bellach wedi cael eu harestio ac mae ymchwiliad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd sy’n ystyried a yw’r protestwyr wedi cyflawni’r drosedd o “sarhau cerflun”. Mae trosedd o’r fath yn cynnwys cosb o naill ai dirwy neu garchar.

Henryk Janowski

Daeth y Monsignor Henryk Janowski, a fu farw yn 2010, i’r amlwg yn ystod yr 1980au yn sgil ei gefnogaeth i’r mudiad Solidarity a’i arweinydd, Lech Walesa, a oedd yn gweithredu yn erbyn Llywodraeth gomiwnyddol Gwlad Pwyl ar y pryd.

Ymhlith arweinwyr y byd a ymwelodd a’r offeiriad ar hyd y blynyddoedd oedd cyn-Brif Weinidog Prydain, Margaret Thatcher, a chyn-Arlywydd yr Unol Daleithau, George H W Bush.

Yn ddiweddar, mae ei enw wedi cael ei bardduo yn sgil honiadau ei fod wedi targedu bechgyn ifanc, gan fwyaf, a’u cam-drin yn rhywiol.