Mae dyn Ffrengig oedd yn gyfrifol am ddiogelwch llethrau sgïo wedi marw dros nos ar ôl cael ei ddal mewn cwymp eira yn Alpau’r Swistir.

Roedd y dyn 34 oed yn un o bedwar o bobol a gafodd eu hanafu a’u hachub ar ôl cael eu boddi gan gwymp eira ddoe (dydd Mawrth, Chwefror 20).

Fe darodd y cwymp lethr mynydd Plaine Morte, rhewlif ger tref Crans-Montana.

Roedd bron i 250 o weithwyr achub, meddygon, swyddogion heddlu a milwyr yn helpu i chwilio am rai a gafodd yn dal yn y cwymp eira, gyda chefnogaeth hofrennydd a dwsin o gŵn.