Mae Califfornia a sawl talaith arall yn yr Unol Daleithiau wedi dwyn achos llys yn erbyn gorchymyn Donald Trump i sicrhau cyllid ar gyfer adeiladu wal ar ffin Mecsico.

Yn ôl datganiad gan Twrne Cyffredinol Califfornia, Xavier Becerra, mae’r cyhoeddiad o argyfwng cenedlaethol gan yr Arlywydd yn mynd yn groes i Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau.

“Mae’r Arlywydd Trump yn dirmygu rheolaeth y gyfraith,” meddai.

“Mae’n gwybod nad oes yna argyfwng ar y ffin; mae’n gwybod bod ei gyhoeddiad argyfwng yn anwarantedig, ac mae’n cyfaddef ei hun ei fod yn debygol o golli’r achos hwn yn y llys.”

Yn ymuno â Califfornia mewn cyflwyno’r her gyfreithiol, mae twrneiod cyffredinol Colorado, Connecticut, Delaware, Hawaii, Illinois, Maine, Maryland, Michigan, Minnesota, Nevada, New Jersey, New Mexico, Efrog Newydd, Oregon a Virginia.