Mae Prif Weinidog Siapan Shinzo Abe wedi gwrthod dweud a oedd wedi enwebu Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump am Wobr Heddwch Nobel.

Roedd Donald Trump wedi dweud ddydd Gwener bod Shinzo Abe wedi ei enwebu am yr anrhydedd a’i fod wedi anfon copi o’r llythyr ato.

Ond mae hyn wedi arwain at feirniadaeth o Shinzo Abe yn Siapan.

Pan gafodd ei holi yn y Senedd ynglŷn â’r adroddiadau fe wrthododd wneud sylw. Serch hynny, nid yw’r prif weinidog na’i lefarydd wedi gwadu’r hyn ddywedodd Donald Trump.

Mae Yuichiro Tamaki, gwleidydd o’r wrthblaid, Plaid Ddemocrataidd y Bobl, wedi dweud ei fod yn bryderus y bydd yr enwebiad “yn anfon y neges anghywir” i Ogledd Corea ac yn rhyngwladol.

Wrth ymateb i sylwadau Yuichiro Tamaki, roedd Shinzo Abe wedi canmol arweinyddiaeth yr Arlywydd gan ddweud ei fod wedi “ymateb yn bositif tuag at geisio datrys y problemau niwclear a thaflegrau yng Ngogledd Corea” ac wedi cynnal “trafodaethau hanesyddol rhwng yr Unol Daleithiau a Gogledd Corea” y llynedd.

Roedd y cyn-Arlywydd Barack Obama wedi ennill y Wobr Heddwch Nobel yn 2009, yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn y Tŷ Gwyn.