Mae’r awdurdodau wedi dod o hyd i 24 yn rhagor o gyrff wrth chwilio am fwyngloddwyr dan ddaear.

Aethon nhw’n sownd yn dilyn llifogydd yn ardal Kadoma ddydd Mawrth (Chwefror 12).

Mae’r awdurdodau wedi adnabod 23 ohonyn nhw.

Cafodd wyth o bobol eu hachub, ac mae un ohonyn nhw’n dal yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth. Mae’r gweddill wedi cael mynd adref.

Mae lle i gredu bod hyd at 70 o fwyngloddwyr wedi mynd yn sownd wedi i wal ddymchwel mewn twnnel, gan achosi llifogydd mewn glaw trwm.

Does dim rheoliadau ar fwyngloddwyr yn y wlad, ac mae damweiniau’n digwydd yn aml.