Mae nifer o bobol wedi cael eu lladd yn dilyn digwyddiad domestig yn nhalaith Mississippi yn yr Unol Daleithiau.

Cafodd nifer o bobol eu cadw’n wystlon mewn digwyddiad oedd wedi para oddeutu 12 awr.

Mae nifer o farwolaethau wedi’u cadarnhau, ond ychydig iawn o wybodaeth sydd wedi’i chyhoeddi hyd yn hyn.

Mae’r MBI yn cynnal ymchwiliad am fod yr heddlu wedi gorfod tanio dryll.

Dydy hi ddim yn glir eto beth oedd achos y digwyddiad.