Mae darn o adeilad prifysgol yn Rwsia wedi cwympo i’r llawr, meddai’r awdurdodau.
Mae’r digwyddiad yn y sefydliad technoleg gwybodaeth yn St. Petersburg wedi effeithio ar sawl llawr yn yr adeilad.
Mae lle i gredu bod tua 80 o bobol wedi cael eu symud.
Does dim adroddiadau bellach fod unrhyw un yn sownd yn y rwbel.
Roedd nifer o fyfyrwyr yn yr adeilad ar gyfer gwersi dewisol dros y penwythnos.