Mae etholiad arlywyddol Nigeria wedi cael ei ohirio oherwydd yr hyn y mae’r comisiwn etholiadol yn ei alw’n “heriau amhenodol”.

Fe fydd yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn nesaf (Chwefror 23).

Daeth y cyhoeddiad bum awr yn unig cyn amser agor y gorsafoedd pleidleisio.

Mae’r prif ymgeiswyr yn beio’i gilydd am y penderfyniad, ond maen nhw i gyd yn apelio am heddwch yn y wlad.

Mae pleidleiswyr yn rhybuddio y gallai’r penderfyniad i ohirio arwain at apathi ar y dyddiad newydd – rhywbeth y mae’r Arlywydd Muhammadu Buhari wedi cael ei gyhuddo o geisio’i sicrhau.

Ond mae e’n dweud ei fod e wedi cael ei “siomi” ynghylch y penderfyniad.