Mae Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, wedi cyhoeddi argyfwng yn y wlad tros fater wal Mecsico wedi iddo golli pleidlais ar ei gyllideb.

Mae’r cyhoeddiad yn golygu y bydd yn sicrhau mwy o arian er mwyn codi’r wal, ond mae disgwyl iddo wynebu heriau cyfreithiol yn sgil y penderfyniad.

Mae’n dweud bod y ffin rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico yn “fynedfa fawr ar gyfer troseddwyr, aelodau o gangiau a defnyddwyr cyffuriau”, sy’n “peryglu buddiannau craidd diogelwch y genedl”.

Ond fe fu gostyngiad ers 2000 yn nifer y bobol sy’n croesi’r ffin yn anghyfreithlon.

Fe allai’r Gyngres bleidleisio er mwyn atal cynlluniau Donald Trump.

Beirniadaeth

Mae’r Democratiaid – a rhai Gweriniaethwyr – yn parhau i wrthwynebu’r hyn y mae Donald Trump yn ei wneud ynghylch mater ffiniau’r wlad.

Mae e eisoes wedi llofnodi datganiad er mwyn sicrhau biliynau o ddoleri ffederal yn rhagor, wrth i’r Gyngres awdurdodi dim ond chwarter o’r arian yr oedd e am ei gael.

Yn sgil yr anghydfod, cafodd y llywodraeth ei chau am y cyfnod mwyaf yn hanes y wlad.

Mae’r cytundeb diweddaraf yn sicrhau na fydd hynny’n digwydd eto – am y tro, o leiaf.

Datganiad

“Yn drist iawn, fe fydd achos yn ein herbyn ac yn drist iawn, fe fydd yn mynd trwy broses, ond yn hapus iawn, fe fyddwn ni’n ennill, dw i’n credu,” meddai Donald Trump.

O fewn oriau, cafodd her gyfreithiol ei chyflwyno gan undeb rhyddid sifil yn erbyn y cynlluniau.

“Does dim argyfwng yn genedlaethol,” meddai undeb ACLU, sydd yn ei gyhuddo o fanteisio ar y mater er mwyn gwthio am wal rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico.

“Mae gweithredoedd yr Arlywydd yn amlwg yn torri pwerau pwrs ecsgliwsif y Gyngres, a gafodd ei roi yn y Cyfansoddiad gan ein syflaenwyr,” meddai Nancy Pelosi, Llefarydd y Tŷ, a Charles Schumer, arweinydd lleiafrif y Senedd mewn datganiad ar y cyd.

Tra bod Donald Trump yn dweud nad yw’n ymddwyn yn wahanol i’r un arlywydd arall, fe yw’r cyntaf i ddefnyddio pwerau brys i dalu am brosiectau sydd eisoes wedi’u gwrthod gan y Gyngres.