Mae dyn a gafodd ei ddiswyddo gan gwmni yn Chicago wedi saethu pump o’i gyn-gydweithwyr yn farw, ac wedi anafu pump o blismyn.

Saethodd Gary Martin, 45, at y plismyn pan aethon nhw i mewn i adeilad cwmni Henry Pratt yn Aurora, ac fe gafodd ei ladd ganddyn nhw.

Mae chweched gweithiwr yn yr ysbyty, ond dydy ei fywyd ddim mewn perygl, ac fe gafodd chweched plismon anafiadau i’w goes.

Dydy’r heddlu ddim yn gwybod pam iddo ladd ei gyn-gydweithwyr.

Mae Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, wedi talu teyrnged i’r heddlu yn dilyn y digwyddiad, gan ddweud ei fod yn monitro’r sefyllfa.