Mae arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, yn bygwth datgan argyfwng cenedlaethol i geisio ariannu’r wal ar y ffin rhwng y wlad a Mecsico.

Fe fyddai’r cam dadleuol yn caniatáu i Donald Trump osgoi’r Gyngres sydd wedi gwrthod ariannu’r wal.

Mae’r Democratiaid wedi ymateb yn chwyrn gan gyhuddo’r Arlywydd o “gamddefnyddio ei awdurdod”.

Roedd adeiladu’r wal ar y ffin a Mecsico yn un o brif addewidion Donald Trump yn ystod ei ymgyrch arlywyddol.

Fe fyddai cyhoeddi argyfwng cenedlaethol yn golygu nad yw’r Arlywydd yn cael ei rwystro gan gyfyngiadau cyfreithiol ac yn rhoi mynediad iddo at biliynau o ddoleri ar gyfer ei brosiect.

Ddoe, roedd Donald Trump wedi cytuno i arwyddo bil gwariant sydd ddim yn cynnwys arian ar gyfer y wal. Fe ddaeth y bil a diwedd i’r anghydfod sydd wedi arwain at gau’r llywodraeth am 35 diwrnod – y cyfnod hiraf yn hanes yr Unol Daleithiau.

Fe fydd yn rhaid i’r bil gael ei arwyddo heddiw (dydd Gwener, 15 Chwefror) er mwyn osgoi cau’r llywodraeth eto. Ond mae ’na ddarogan y bydd Donald Trump yn cyhoeddi argyfwng cenedlaethol ar yr un pryd.