Mae arweinydd yr wrthblaid yn Feneswela, Juan Guaido, wedi datgan ei fod yn mynd i helpu pobol y wlad gyda chyflenwad angenrheidiol o fwyd a meddygaeth.

Mewn cyfnod o ddwy flynedd, mae dros ddwy filiwn o bobol wedi gadael y wlad oherwydd cynnydd mewn prisiau nwyddau a diffyg bwyd a meddygaeth.

Mae Juan Guaido, sydd wedi datgan ei hun yn arlywydd dros dro’r wlad, wedi gosod Chwefror 23 fel y dyddiad mae’n gobeithio sicrhau’r nwyddau gan yr Unol Daleithiau.

Er ei fod yn addo hyn, nid oes unrhyw dystiolaeth fod gwasanaethau diogelwch y wlad – sydd â’r pŵer yno ar hyn o bryd – yn gefnogol.

Nid yw Juan Guaido wedi datgelu sut mae’n cynllunio i ddod a’r bwyd a’r feddygaeth o ddinas Cacuta, Colombia, heblaw am alw ar gymorth pobol Feneswela.

Fodd bynnag, fe all hyn argoeli i fod yn benderfyniad peryg o ystyried y sefyllfa dreisgar sydd yno ar hyn o bryd.

Mae o leiaf 40 o bobol wedi cael eu lladd mewn gwrthdaro ers i Juan Guaido ddatgan ei hun yn arlywydd dros dro ar Ionawr 23.

Er hyn, mae Jose Manuel Olivares, cynrychiolydd Juan Guaido sy’n arwain y genhadaeth cymorth o Golombia, wedi cydnabod y risg, gan ddweud y bydd ar flaen y gad ar Chwefror 23 i sicrhau’r cymorth, hyd yn oed os yw’n golygu y bydd eu bywydau mewn perygl.

Yn rhyngwladol mae Juan Guaido wedi ennill cefnogaeth bron i 60 gwlad, gan gynnwys yr Unol Daleithiau a Phrydain, sydd wedi addo $20 miliwn o arian.

Mae Canada wedi datgan ei bod am anfon $53 o arian cymorth.