Mae Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn dweud ei fod e’n “anhapus” â’r cyfaddawd tros wal ddadleuol Mecsico, ond does dim awgrym ar hyn o bryd na fydd e’n ei lofnodi yn y pen draw.

Mae’r cytundeb gwerth 1.4bn o ddoleri (£1.1bn) yn golygu nad yw’r llywodraeth wedi’i chau bellach, a bod rhagor o ffensys rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico’n cael eu hariannu tros bellter o 55 milltir yn ardal y Rio Grande yn nhalaith Tecsas.

Ond mae’r cytundeb ymhell o fod yn ddigon ar gyfer wal o 215 o filltiroedd roedd yn gofyn amdani, a fyddai’n costio 5.7bn o ddoleri (£4.4bn), ac fe allai Donald Trump fod wedi cytuno ar yr amodau hyn ym mis Rhagfyr.

Mae’r ffin rhwng y ddwy wlad yn 1,954 o filltiroedd i gyd.

Mae’r Gweriniaethwyr yn cefnogi’r cytundeb, gan ddweud fod cyfaddawd yn angenrheidiol er mwyn osgoi gorfod cau’r llywodraeth unwaith eto.

“Alla i ddim dweud fy mod i’n hapus. Alla i ddim dweud fy mod i wrth fy modd,” meddai, wrth gadarnhau y bydd y wal yn cael ei chodi.

Sêl bendith y Gweriniaethwyr

Mae’r Gweriniaethwyr yn dathlu’r datblygiad diweddaraf, gyda dau seneddwr, Mitch McConnell a Kevin McCarthy yn croesawu’r newyddion.

“Rhaid i chi gofio lle’r oedd Nancy Pelosi,” meddai Kevin McCarthy. “Mae hi wedi dweud, ‘Dim arian ar gyfer y wal’. Nid dyna’r gwirionedd.

“Mae’r Democratiaid bellach wedi cytuno i fwy na 55 milltir o ffin newydd.”