Mae gangster cyffuriau o Mecsico a fu’n gweithredu ar raddfa enfawr yn wynebu gweddill ei oes mewn carchar yn America.

Roedd Joaquin “El Chapo” Guzman wedi rhedeg ymerodraeth anghyfreithlon am ddegawdau wrth wneud biliynau o ddoleri yn smyglo cocên, heroin, meth a marijuana i’r Unol Daleithiau.

Yn yr achos yn Efrog Newydd, clywedd y rheithgor hanesion am lofruddiaethau, llwgrwobrwyo gwleidyddion, cuddio cocên mewn caniau jalapeno a ffoi’n noethlymun gyda’i feistres trwy dwnel.

Mae disgwyl i’r dyn 61 oed gael ei gadw mewn carchar â’r mesurau diogelwch mwyaf caeth yn America ar ôl iddo ffoi gymaint o weithiau o garchardai ym Mecsico.

Hanner awr yn unig o’r achos a barhaodd dri mis a gafodd ei dreulio ar ei amddiffyniad. Yn hytrach na gwadu ei drosoeddau, dadl ei gyfreithwyr oedd bod tystion y llywodraeth yn ei erbyn yn bobl llawer gwaeth nag ef.