Mae pump o baentiadau sydd wedi cael eu priodoli i Adolf Hitler wedi cael eu gwrthod mewn ocsiwn yn yr Almaen.
Mae amheuon nad cyn-Ganghellor yr Almaen oedd wedi paentio’r gweithiau dyfrlliw mewn gwirionedd.
Cawson nhw eu rhoi ar werth mewn ocsiwn yn Nuremberg am brisiau rhwng 19,000 Ewro (£16,600) a 45,000 Ewro (£39,300).
Ond tridiau cyn yr ocsiwn, cafodd 63 o baentiadau eraill oedd yn cael eu priodoli i Adolf Hitler eu symud o adeilad yr arwerthwr er mwyn cynnal ymchwiliad.
Daeth yr awdurdodau o hyd i dri o baentiadau ffug fis diwethaf.
Mae lle i gredu bod Adolf Hitler wedi creu hyd at 2,000 o weithiau celf yn Fienna cyn y Rhyfel Byd Cyntaf.