Mae Twrci yn dweud bod ymdriniaeth China o lwyth Uighurs yn “warth i’r ddynoliaeth”.

Dydy hi ddim yn gyfrinach bellach fod y wlad wedi cadw mwy na miliwn ohonyn nhw mewn “gwersylloedd crynhoi”, meddai Hami Aksoy, llefarydd ar ran Swyddfa Dramor y wlad.

Mae’n galw ar yr awdurdodau i gau’r gwersylloedd ac i barchu hawliau dynol, a hynny’n dilyn marwolaeth honedig Abdurehim Heyit, bardd a cherddor uchel ei barch, oedd wedi cael ei garcharu am wyth mlynedd yn sgil cynnwys un o’i ganeuon.

Mae llysgenhadaeth Tsieina yn Ankara, prifddinas Twrci, yn dweud bod y sylwadau’n “gwbl annerbyniol”, ac maen nhw’n galw am dynnu’r sylwadau’n ôl.

Cefndir

Fe fu ymdrechion bwriadol gan awdurdodau Tsieina i leihau grym a dylanwad pobol Uighurs dros y blynyddoedd diwethaf.

Fe fu camau diogelwch llym yn eu lle ers gwrthdaro ffyrnig yn nhalaith Xinjiang yn 2009, sydd wedi gorfodi nifer fawr o bobol i adael yr ardal.

O dan gryn bwysau, mae awdurdodau Tsieina wedi cyfaddef fod gwersylloedd yn cael eu defnyddio fel “canolfannau hyfforddi galwedigaethol”, ond ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael amdanyn nhw.