Mae rhagor o helyntion wedi bod rhwng proteswyr crysau melyn a’r heddlu yn Paris.

Ar y trydydd penwythnos ar ddeg yn olynol o brotestiadau yn y ddinas, mae’r heddlu wedi bod yn tanio nwy dagrau i wasgaru protestwyr ger y Champs-Elysees y pnawn yma.

Dywed yr heddlu fod tua 10 o wrthdystwyr wedi cael eu harestio hyd yma, a bod rhai ohonyn nhw wedi bod yn taflu gwrthrychau at blismyn o flaen cynulliad cenenedlaethol y wlad.

Mae protestwyr y crysau melyn, sydd wedi dod â channoedd o filoedd o brotestwyr ar y strydoedd dros y tri mis diwethaf, bellach â’u bryd ar sicrhau llwyddiant etholiadol. Mae’r mudiad, fodd bynnag, yn rhanedig yn wleidyddol a does ganddo ddim arweinydd penodedig.

Mae’r arolygon barn diweddaraf yn awgrymu fod poblogrwydd Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, ar gynnydd. Er cymaint mae’n cythruddo llawer o’r protestwyr, mae’n ymddangos ei fod yn adennill cefnogaeth yn raddol wrth iddo geisio tawelu’r mudiad gyda thrafodaeth wleidyddol genedlaethol.