Fe fydd disgynyddion yr Affricaniaid olaf i gael eu hanfon i’r Unol Daleithiau i fod yn gaethweision, yn cwrdd dros y penwythnos yn Alabama.

Fe fydd digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn (9 Chwefror) yn Africatown, yn Mobile, Alabama.

Roedd Africatown yn gymuned a gafodd ei sefydlu gan bobol ddu o Affrica oedd wedi cael eu rhyddhau ar ôl y Rhyfel Cartref.

Mae bellach yn ardal ddifreintiedig gyda phoblogaeth sy’n dirywio.

Cafodd yr Affricaniaid eu smyglo’n anghyfreithlon i Alabama yn 1860 ar fwrdd llong y Clotilda, ddegawdau ar ôl i’r fasnach mewn caethweision ddod i ben.

Roedd rhai o’r bobol wedi ymsefydlu ar dir yno ar ôl y rhyfel, gan brynu eiddo, a sefydlu cymdeithas oedd yn cynnwys arweinwyr a llysoedd.

Mae trefnwyr y digwyddiad yfory yn gobeithio y bydd yn annog diddordeb o’r newydd yn Africatown.