Mae dynes o Ddenmarc wedi cael ei charcharu am dynnu gwaed o gorff o’i mab.

Perfformiodd y weithred yn rheolaidd dros gyfnod o bum mlynedd, a byddai’n defnyddio cathetr i gasglu’r hylif.

Mae’r ddynes 36 oed wedi ei hyfforddi yn nyrs, ac fe dynnodd waed o gorff y bachgen 110 o weithiau – y tro cyntaf pan oedd yn flwydd oed, ac am y tro olaf pan oedd yn chwech.

Roedd y fam wedi dweud wrth ddoctoriaid bod gan ei mab salwch prin, ond daeth meddygon yn amheus a chysylltu â’r heddlu.

Dywedodd seiciatrydd llys bod y ddynes yn dioddef syndrom ‘Munchausen trwy ddirprwy’ – cyflwr lle mae gofalwr yn gwneud plentyn yn sâl er mwyn denu sylw at eu hunain.

Fe fydd yn treulio pedair blynedd dan glo.