Mae NASA a SpaceX yn bwriadu dangos eu capsiwl masnachol newydd i grwydro’r gofod, yn ystod mis Mawrth.

Fydd yna neb ar fwrdd taith gyntaf y Dragon i’r Orsaf Ofod Ryngwladol ar Fawrth 2. Ond, os aiff popeth yn dda, y bwriad ydi anfon dau astronôt NASA ar daith arall ym mis Gorffennaf.

Dyna fyddai’r tro cyntaf i’r Unol Daleithiau anfon gofodwyr i’r awyr, oddi ar dir America, ers i raglen gwennol ofod NASA ddod i ben yn 2011.

Mae Boeing hefyd yn gobeithio anfon capsiwl Starliner i’r gofod ym mis Ebrill, heb griw ar ei fwrdd. Pe bai’n llwyddo, fe fyddai’r astronôts cyntaf yn mentro arno ym mis Awst.

Mae cynllun masnachol NASA wedi cael ei fwrw’n ôl dro ar ôl tro dros y blynyddoedd diwethaf. gan eu gorfodi i ddibynnu ar rocedi drud o Rwsia.