Mae gwasanaethau achub oedd yn ymateb i adroddiadau am sgïwr o wledydd Prydain oedd ar goll wedi  cwymp eira, wedi darganfod tri chorff yn yr Alpau yn yr Eidal, ac yn chwilio am bedwerydd person.

Dywed y Swyddfa Dramor eu bod yn rhoi cymorth i deulu dyn o wledydd Prydain sydd ar goll yn Valle d’Aosta.

Roedd  awyren achub yr Alpine Valdostano yn chwilio am bedwar sgïwr oedd wedi mynd ar goll ddiwrnod ynghynt.

Ddydd Sul (Ionawr 3) cafodd dau sgïwr o’r Eidal eu lladd o ganlyniad i gwymp eira – un yn ardal y Valle d’Aosta, ac un yn ardal Alto Adige.

Mae’r awdurdodau wedi dweud bod perygl o gwympon eira yno wedi bod yn uchel iawn dros y penwythnos.