Ar drothwy’r Super Bowl, un o gemau mwya’r byd chwaraeon, mae’r band Maroon 5 wedi cael eu beirniadu am gytuno i berfformio yn ystod yr egwyl.

Y Super Bowl yw uchafbwynt y tymor pêl-droed Americanaidd, wrth i’r New England Patriots herio’r Los Angeles Rams yn Atlanta.

Mae’r ffrae yn ymwneud â phrotest yn 2016, pan wrthododd y chwaraewr croenddu Colin Kaepernick sefyll ar gyfer yr anthem genedlaethol, a hynny fel protest yn erbyn ymdriniaeth llywodraeth y wlad a’r awdurdodau o bobol groenddu.

Hanes y gystadleuaeth

Dydy’r New England Patriots a’r Los Angeles Rams ddim wedi cwrdd ar gyfer yr ornest fawr ers 2001, pan enillodd y Patriots o 20-17. Yn wir, dyma Super Bowl cynta’r Rams ers hynny.

Y Rams gipiodd dlws y Super Bowl yn 1999.

Ers 2001, mae’r Patriots wedi cyrraedd y Super Bowl saith gwaith, gan ennill pedair gwaith a cholli tair gwaith.

Ar y cyfan, maen nhw wedi chwarae yn y Super Bowl 11 o weithiau, sy’n torri record y gystadleuaeth, a nhw hefyd oedd y trydydd tîm i gyrraedd y Super Bowl dri thymor yn olynol.

A phe bai’r Patriots yn ennill, nhw fyddai’r pumed tîm i guro’r un tîm ddwywaith i godi tlws y Super Bowl, tlws Vince Lombardi.

Fe fu’n rhaid i’r Patriots a’r Rams chwarae amser ychwanegol er mwyn cyrraedd y Super Bowl, y tro cyntaf erioed i hynny ddigwydd.

Adloniant

Ond oddi ar y cae, fe fydd sylw’r byd ar berfformiad Maroon 5 yn ystod yr egwyl hanner amser.

Cytunodd y band i berfformio er bod nifer o artistiaid eraill eisoes wedi gwrthod, gan gefnogi safiad Colin Kaepernick.

Roedd y chwaraewr ar ei bengliniau yn ystod yr anthem genedlaethol yn 2016.

Dywedodd ar y pryd nad oedd yn fodlon sefyll ar gyfer anthem gwlad sy’n cymeradwyo gormes yn erbyn pobol groenddu.

Dywedodd yr awdurdodau ar y pryd nad ydyn nhw’n gorfodi chwaraewyr i sefyll yn ystod yr anthem genedlaethol.

Wrth amddiffyn eu penderfyniad i berfformio, dywed Maroon 5 eu bod yn bwriadu manteisio ar yr achlysur i gyfleu eu neges eu hunain am y sefyllfa.

‘Dianc’

Ond mae Mark Geragos, cyfreithiwr Colin Kaepernick yn cyhuddo’r band o “ddianc” rhag y sefyllfa.

“Os ydych chi’n mynd i groesi’r llinell ideolegol neu ddeallusol, yna gwnewch hynny, ac mae Adam Levine [aelod o’r band] yn sicr ddim yn perchnogi hynny.

“Dianc yw dechrau siarad a dweud ‘nid gwleidydd ydw i, dw i ond yn gwneud y gerddoriaeth’.”