Mae saith o bobol, gan gynnwys pedwar o blant, wedi cael eu lladd mewn gwrthdrawiad bws yn Rwsia.

Fe wnaeth y bws, oedd yn cludo 45 o bobol, foelyd ar ffordd fach leol yn nhref Yartsevo ger dinas Kaluga.

Aeth dwsinau o bobol yn sownd yn y cerbyd, ac fe fu’n rhaid aros rhai oriau cyn iddyn nhw gael eu hachub.

Cafodd 32 o bobol eu cludo i’r ysbyty, gan gynnwys 23 o blant.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae’r heddlu’n holi’r gyrrwr yn y ddalfa. Mae lle i gredu iddo golli rheolaeth ar y cerbyd.