Mae Vladmir Putin, arlywydd Rwsia, yn dweud y bydd y wlad yn dilyn esiampl yr Unol Daleithiau wrth dynnu’n ôl o gytundeb arfau niwclear.

Ond fydd y wlad ddim yn lansio taflegrau niwclear pellter canolig oni bai bod yr Unol Daleithiau yn gwneud hynny’n gyntaf, meddai.

Daeth cadarnhad ddoe (dydd Gwener, Chwefror 1) fod yr Unol Daleithiau’n troi eu cefnau ar y cytundeb a gafodd ei lofnodi yn 1987 wedi iddyn nhw gyhuddo Rwsia o ymddwyn yn groes i’r cytundeb.

Mae Rwsia’n gwadu hynny, ac yn dweud bod yr Unol Daleithiau’n defnyddio’r esgus er mwyn tynnu’n ôl.

Mae disgwyl i’r ddwy wlad dynnu’n ôl yn ffurfiol ymhen chwe mis, ac mae pryderon bellach y gallai arwain at Ryfel Oer arall.