Fe wnaeth ymgyrchwyr o blaid annibyniaeth i Gatalwnia feddiannu swyddfeydd Comisiwn a Senedd Ewrop yn Barcelona ddydd Gwener (Chwefror 1).
Roedden nhw’n protestio yn erbyn achosion llys saith o ymgyrchwyr, ac yn galw o’r newydd am annibyniaeth oddi wrth Sbaen.
Aethon nhw i mewn a chloi eu hunain yn y swyddfeydd, tra bod dwsinau’n rhagor wedi atal pobol rhag cael mynediad i’r adeiladau.
Manteision nhw ar y cyfle i ddenu cefnogaeth gan brotestwyr oedd eisoes yn y ddinas ar gyfer protest arall yn erbyn awdurdodau Sbaen.
Fe fu rhai cannoedd o bobol yn atal cerbydau rhag teithio ar hyd ffyrdd Barcelona.
Cefndir
Mae awdurdodau Sbaen wedi trosglwyddo naw o wleidyddion ac ymgyrchwyr o Gatalwnia i’r brifddinas, Madrid, heddiw (Dydd Gwener, Chwefror 1).
Maen nhw’n wynebu achos llys am hyrwyddo’r achos tros annibyniaeth i Gatalwnia.
At ei gilydd maen nhw’n wynebu hyd at 25 mlynedd yn y carchar am bwyso am refferendwm anghyfreithlon i fod yn annibynnol o Sbaen.
Does dim dyddiad i’r gwrandawiad eto, ond fe orchmynnodd y barnwr Manuel Marchena iddyn nhw gael eu symud yn agosach i’r Oruchaf Lys yn Madrid erbyn Chwefror 2.
Yn gynnar heddiw roedd heddlu rhanbarthol Catalwnia wedi hebrwng y saith dyn a dwy ddynes o dri charchar gwahanol i garchar Briands 2.
Mae tri arall wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth.