Mae o leiaf 40 o bobol wedi marw ar ôl i argae ddymchwel yn ne-ddwyrain Brasil.

Mae hyd at 300 o bobol yn dal ar goll yn dilyn y trychineb ar safle gwastraff yn nhalaith Minas Gerais.

Mae llywodraethwr y dalaith yn dweud y bydd y sawl sy’n gyfrifol yn “cael ei gosbi”.

Cafodd y safle ei ymestyn gan y perchnogion Vale ym mis Rhagfyr ar ôl derbyn trwydded newydd, ond mae ymgyrchwyr amgylcheddol yn dweud bod y broses o roi’r drwydded yn un anghyfreithlon.

Cafodd 23 o bobol eu cludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad ddydd Gwener, ar ôl i 43 o bobol gael eu canfod yn fyw.

Y digwyddiad

Roedd gweithwyr yn cael cinio ar y safle ddydd Gwener pan wnaeth yr argae ddymchwel, gan arllwys mwd coch a brown a chladdu nifer o adeiladau cyfagos.

Cafodd ei ddisgrifio gan Jair Bolsonaro, arlywydd Brasil, fel trychineb.0

Mae pryderon bellach y gallai gwenwyn ledu yn yr ardal, er bod adroddiadau cychwynnol yn dweud nad oes gwenwyn ar y safle, yn groes i adroddiad blaenorol yn 2015.

Bu’n rhaid i nifer o drigolion tref Brumadinho adael eu cartrefi, a chafodd eraill eu hachub o’r ardal.

Mae’r gwastraff wedi cyrraedd cymunedau cyfagos Vila Ferteco ac un o swyddfeydd cwmni Vale.