Mae o leiaf saith o bobl wedi marw a thua 200 ar goll ar ôl i argae mewn mwynglawdd ddymchwel yn Brasil.

Fe ddigwyddodd y trychineb yn nhref Brumadinho, sydd rhwng dinasoedd Rio de Janeiro a Brasilia.

Mae trigolion wedi gorfod ffoi o’u cartrefi, wrth i rannau o’r dref gael eu troi’n wastadeddau helaeth o fwd. Mae timau achub mewn hofrenyddion wedi bod yn llusgo pobl allan o’r mwd.