Mae bacteria cyffredin sy’n effeithio’r gymiau yn y geg, yn chwarae “rhan ganolog” yn natblygiad clefyd Alzheimer, yn ôl gwyddonwyr.

Mae tystiolaeth newydd sy’n awgrymu fod porphyromonas gingivalis yn hybu cynnydd Alzheimer, yn cael ei gweld fel un a allai drawsnewid y ffordd y mae’r afiechyd yn cael ei drin.

Mae’n facteria sy’n achosi poen a gwaedu o’r gymiau, ac mae hefyd wedi’i gysylltu â niwed i arterïau’r galon.

Fe ddaeth gwyddonwyr yn America i’r casgliad diweddaraf ar ôl astudio meinwe o’r ymennydd, hylif o’r asgwrn cefn, ynghyd â phoer o gleifion byw a marw a oedd wedi derbyn diagnosis o glefyd Alzheimer.

Fe ddaethon nhw o hyd i ensymau gwenwynig o’r enw gingipain, sy’n cael eu rhyddhau gan porphyromonas gingivalis, yn ogystal â DNA o’r bacteriwm.

Hefyd, maen nhw wedi dod i’r casgliad, trwy arbrofion ar lygod, fod y bacteriwm yn ymledu o gegau i ymennydd yr anifeiliaid, gan ladd newronau’r ymennydd.

Y newyddion da, meddir, ydi bod yna gyffuriau sy’n gallu rhwystro’r bacteria, a bod cyffur newydd, COR388, wedi’i ddatblygu a allai fod yn sail i driniaeth newydd sbon i gleifion Alzheimer.