Mae ymosodwr Juventus a Phortiwgal, Cristiano Ronaldo, wedi pledio’n euog i dwyll treth.

O ganlyniad mae’r pêl-droediwr wedi cael dedfryd wedi’i ei ohirio am ddwy flynedd.

Roedd Cristiano Ronaldo wedi twyllo’r trethdalwr o 14.7 miliwn ewro yn ystod ei ddyddiau gyda chlwb pêl-droed Real Madrid.

Fe arwyddodd gytundeb gyda’r llys ar ôl 45 munud sy’n golygu fod rhaid iddo dalu bron i 19 miliwn ewro (£17 miliwn) o ddirwyon.

Cafodd ei gyhuddo o fod wedi defnyddio cwmnïau bach tu allan i Sbaen i guddio incwm a wnaeth o hawliau delweddau.

Yn Sbaen, fe all barnwr rhoi dedfryd wedi’i ei ohirio am ddwy flynedd neu lai i bobol sy’n troseddu am y tro cyntaf.