Mae’r canwr o’r Unol Daleithiau Chris Brown a dau berson arall wedi cael eu harestio ym Mharis.

Daw hyn ar ôl i ddynes wneud honiadau o dreisio, yn ôl heddlu Ffrainc.

Dywed swyddogion mai un o’r rhai sydd wedi cael eu harestio yw gwarchodwr y canwr.

Cafodd Chris Brown ei arestio ddydd Llun (21 Ionawr) ac mae’n parhau i gael ei gadw yn y ddalfa tra bod yr heddlu yn ymchwilio i’r gwyn.

Nid yw Sony Music wedi gwneud sylw ar y mater.

Yn 2009, roedd Chris Brown wedi pledio’n euog i gyhuddiad o ymosod ar y gantores Rihanna, ei gariad ar y pryd, yn yr Unol Daleithiau. Roedd wedi cwblhau ei gyfnod prawf yn yr achos yn 2015.