Mae Masazo Nonaka, dyn hyna’r byd, wedi marw’n 113 oed.
Dywed ei deulu ei fod e wedi marw yn ei gwsg yn ei gartref yn Ashoro ar ynys Hokkaido yn Japan.
Mae’n gadael gwraig a thri o’u pump o blant.
Cafodd e wybod y llynedd mai fe oedd dyn hyna’r byd, 259 o ddiwrnodau ar ôl ei ben-blwydd yn 112.
Cafodd ei eni ar 25 Gorffennaf , 1905.
Ei wyres sydd bellach yn rheoli tafarn sydd wedi bod yn rhan allweddol o fywyd y teulu ers pedair cenhedlaeth.