Mae dau o bobol wedi’u lladd, a 22 o bobol wedi’u hanafu, yn dilyn tân ar safle sgïo Courchevel yn Ffrainc.

Fe ddechreuodd y tân yn rhanbarth Savoie am oddeutu 4.30yb fore heddiw (dydd Sul, Ionawr 20) mewn adeilad lle’r oedd gweithwyr yn aros.

Fe fu 70 o ddynion tân yn ceisio diffodd y fflamau.

Mae pedwar o bobol wedi cael anafiadau difrifol, a bu’n rhaid achub 60 yn rhagor o’r adeilad.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth oedd wedi achosi’r tân.