Mae 66 o bobol wedi marw erbyn hyn yn dilyn ffrwydrad pibell nwy ym Mecsico.

Mae’r ffigwr wedi’i gyhoeddi gan Omar Fayad, llywodraethwr talaith Hidalgo.

Mae o leiaf 85 o bobol yn dal ar goll yn dilyn y digwyddiad yn nhref Tlahuelilpan.

Daw’r digwyddiad wythnosau’n unig ar ôl i’r Arlywydd Andres Manuel Lopez Obrador feirniadu gangiau oedd wedi dryllio pibellau 12,581 o weithiau o fewn deg mis y llynedd – cyfartaledd o 42 o weithiau bob dydd.

Fe allai’r digwyddiad diweddaraf roi pwysau ar lywodraeth y wlad i frwydro yn erbyn ymdrechion i ddwyn tanwydd drwy ddryllio.