Mae cannoedd o brotestwyr ‘festiau melyn’ wedi ymgynnull ym mhob cwr o Ffrainc am y degfed penwythnos yn olynol.

Daw’r protestiadau diweddaraf er i’r Arlywydd Emmanuel Macron lansio dadl genedlaethol yr wythnos hon.

Mae gorymdaith yn y brifddinas Paris yn mynd o gofeb yr Invalides, lle mae beddrod Napoleon, i gofio am y deg o bobol sydd wedi’u lladd mewn protestiadau ers Tachwedd 17.

Mae’r heddlu wedi’u beirniadu am ddefnyddio rwber i geisio tawelu’r protestwyr, gyda dwsinau o bobol wedi’u hanafu yn y gwrthdaro. Maen nhw’n cludo arwyddion sy’n dweud “trigolion mewn perygl”.

Mae 5,000 o blismyn yn gwarchod y brifddinas, ac 80,000 ar ddyletswydd yn yr amryw brotestiadau o amgylch y wlad.

Cefndir

Mae’r protestwyr yn gwrthwynebu trethi tanwydd uchel, ond mae’r protestiadau wedi mynd y tu hwnt i’r mater hwn yn unig, ac yn cael eu hystyried yn ffordd o wrthwynebu arweinyddiaeth Emmanuel Macron yn gyffredinol.

Maen nhw’n galw am ailgyflwyno treth ar bobol gyfoethoca’r wlad a sefydlu pleidlais boblogaidd sy’n rhoi’r hawl i Ffrancwyr benderfynu ar ddeddfau newydd.

Mae Emmanuel Macron yn dweud ei fod yn barod i gynnal trafodaethau i geisio heddwch ac ymhlith ei gynigion mae ailystyried cynlluniau pensiwn.