Mae un o drigolion Y Wladfa wedi beirniadu’r Wasg am “orymateb” ar ôl i feirws sy’n gysylltiedig â llygod effeithio ar rai pobol yn Patagonia.

Yn ôl adroddiad yn y Buenos Aires Times yr wythnos ddiwethaf (Ionawr 9), mae naw o bobol wedi marw ers mis Rhagfyr o ganlyniad i’r haint Hantavirus, sy’n medru cael ei drosglwyddo i bobol wrth iddyn nhw ddod i gysylltiad â llygod a’u baw.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod 24 o bobol wedi cael eu trin am y feirws yn ystod y misoedd diwethaf, gyda rhai ohonyn nhw wedi derbyn triniaeth mewn ysbyty yn Esquel – tref a gafodd ei sefydlu gan Gymry.

Ond mae Clare Vaughan, sy’n byw yn Trevelin, yn dweud bod yna achosion o’r feirws i’w cael yn yr Ariannin “bob haf”, a bod holl sylw’r Wasg yn ddiweddar wedi effeithio ar dwristiaeth Y Wladfa.

“Mae lot o bobol wedi penderfynu peidio â chael eu gwyliau oherwydd hyn,” meddai cydlynydd y prosiect dysgu Cymraeg yn y Wladfa.

“Mae’n drasiedi i’r ardal, oherwydd mae’n mynd i gael effaith ar y tai bwyta, ar y gwestai a’r tafarndai ac yn y blaen.”

‘Dim perygl’

Fe gyhoeddodd llywodraeth Chubut rybudd iechyd yn y rhanbarth ym mis Rhagfyr, yn dilyn digwyddiad cyhoeddus yn ardal Epuyén lle cafodd nifer eu heintio.

Ond yn ôl Clare Vaughan, mae’n anghywir awgrymu bod y feirws wedi deillio o ganol y cymunedau Cymraeg, gan fod yr ardal honno “ddwy awr i’r gogledd”.

“Os yw pobol o Gymru yn teithio draw o Gymru i gael gwyliau, mae’n anghyffredin eu bod nhw’n mynd i ddod mewn cysylltiad â’r grŵp neu’r pentref yma sydd, mewn gwirionedd, ddwy awr i’r gogledd i’r hyn yr ydym ni’n cysidro’n ‘bentrefi Cymreig’,” meddai.

“Mae pobol yn cael y feirws yma os ydyn nhw’n mynd i lefydd caeedig lle mae llygod wedi bod, felly i bobol sydd eisiau teithio draw, dw i ddim yn rhagweld y byddan nhw’n gwneud hwnnw na threulio hanner awr gyda’r bobol sydd wedi cael y peth.

“Dw i’n ei weld yn drasiedi i’r teulu [sydd wedi’u heffeithio], ond dw i ddim yn meddwl y dylai pobol neidio ar yr elfen fwy tabloid o’r peth.”