Mae Llywodraeth Zimbabwe wedi diffodd system rhyngrwyd y wlad oherwydd y protestio dros brisiau petrol.

Daw yn rhan o gynllun y llywodraeth i ddistewi ac ymosod yn ôl yn dreisgar ar y protestwyr.

Yn ôl Sefydliad Cyfryngau Deheubarth Affrica yn Zimbabwe (MISA), mae cwmni telathrebu mwya’r wlad, Econet, wedi dweud bod penderfyniad y llywodraeth “y tu hwnt i’w rheolaeth”.

Mae’r llywodraeth nawr yn wynebu her gyfreithiol gan Gyfreithwyr Zimbabwe dros Hawliau Dynol.

Carchar

Hefyd, mae gweinidog sydd â llais dylanwadol yn wynebu 20 mlynedd yn y carchar os yw’n cael ei ganfod yn euog o danseilio’r llywodraeth heddiw (Dydd Gwener, Ionawr 18).

Dywedodd Evan Mawrarire ei fod yn “dorcalonnus” gweld yr arlywydd newydd, Emmerson Mnangagwa yn ymddwyn fel yr hen arweinydd Robert Mugabe.