Fe allai miloedd yn rhagor o blant fod wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd ar y ffin rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico nag sydd wedi cael ei adrodd cyn hyn, yn ôl adroddiad.

Fe all hyn fod oherwydd bod swyddogion wedi bod yn cymryd camau i wahanu teuluoedd ymhell cyn y polisi gwahanu a oedd wedi achosi gwrthwynebiad chwyrn yn rhyngwladol y llynedd.

Mae’r polisi yn rhoi’r hawl i swyddogion mewnfudo ar y ffin wahanu teuluoedd o dan amodau penodol.

Mae hi’n aneglur faint yn union o deuluoedd sydd wedi cael eu gwahanu ar y ffin.

Nid oedd y Gwasanaethau Iechyd a Dynol, yr asiantaeth a oedd yn gyfrifol am ofalu am y plant, wedi cadw cofnod o’r niferoedd yn ddigonol nes i farnwr benderfynu bod yn rhaid ail gysylltu plant â’u teuluoedd, yn ôl adroddiad gan arolygydd cyffredinol yr asiantaeth.

Dywedodd Ann Maxwell, arolygydd gwerthuso’r asiantaeth, fod nifer y plant a gafodd eu gwahanu oddi wrth eu rhieni yn sicr yn fwy na’r 2,737 a gyhoeddwyd gan y llywodraeth mewn dogfennau llys.

Roedd y dogfennau hynny yn dangos y gwahaniadau wnaeth ddigwydd wrth i rieni gael eu dedfrydu am groesi’r ffin yn anghyfreithlon o dan bolisi “dim goddefgarwch” yr Arlywydd Donald Trump.