Mae baban newydd anedig wedi cael ei ganfod yn farw mewn toiledau yn un o ganolfannau dosbarthu’r cwmni Amazon yn yr Unol Daleithiau.

Cafodd y baban ei ganfod yn nhoiledau’r merched yn y ganolfan ddosbarthu yn Phoenix nos Fercher, ac mae ymladdwyr tân a ymatebodd i’r digwyddiad wedi cadarnhau ei fod yn farw.

Mewn datganiad, mae Amazon wedi disgrifio’r digwyddiad yn un “hynod o drist a thrasig”, gan ychwanegu eu bod nhw’n cydweithio’n agos gyda’r heddlu yn eu hymchwiliad.