Mae dyn 22 oed wedi’i gyhuddo o ddwyn gwerth 65 miliwn kronor (£5.5m) o drysorau teulu brenhinol Sweden.

Roedd y ddwy goron a’r gemau eraill wedi eu defnyddio ar gyfer cynhebryngau’r Brenin Karl IX a’r Frenhines Kristina, a does neb wedi dod o hyd iddyn nhw eto.

Mae’r heddlu yn Sweden yn credu bod dau ddyn yn gyfrifol am ddwyn yr arteffactau sy’n dyddio’n ôl i 1611, o Eglwys Gadeiriol Strangnas ar Orffennaf 31 y llynedd.

Fe ddihangon nhw ar gwch cyflym i ganol y gyfres o lynnoedd i’r gorllewin o Stockholm.