Mae ffrwydrad mawr wedi ysgwyd adeilad adran wyddonol Prifysgol Lyon yn Ffrainc.

Mae beth bynnag dri o bobol wedi cael eu hanafu yn y digwyddiad.

Mae’r brifysgol wedi rhyddhau datganiad yn dweud mai gwaith adeiladu oedd achos y ffrwydrad, ac mai “damwain” oedd hi.

Roedd nifer o bobol yn nhref Villeurbanne, yr ardal o Lyon lle mae’r coleg, wedi mynd ar wefan gymdeithasol Twitter i ddweud fod rhai wedi’u symuad o’u cartrefi, er diogelwch.

Mae ymladdwyr tân yn y fan a’r lle ar hyd o bryd.