Mae strydoedd prifddinas Zimbabwe yn wag heddiw (dydd Mercher, Ionawr 16) wrth i’r streicio yn erbyn penderfyniad y llywodraeth i ddyblu pris petrol barhau.

Cafodd nifer o bobol eu lladd, a nifer eu harestio ddydd Mawrth.

Mae cwmni telathrebu mwyafl’r wlad, Econet, wedi anfon negeseuon at ei gwsmeriaid yn dweud bod y llywodraeth wedi ei orfodi i gau lawr er mwyn atal cynllwynio gan brotestwyr.

“Mae’r mater y tu hwnt i’n rheolaeth ni,” meddai Econet.

Ar ben hynny, mae cyfreithwyr Evan Mawarire yn dweud fod heddlu wedi amgylchynu ei dy yn Harare.

Evan Marwarire yw’r dyn wnaeth gynllwynio ymgyrch ThisFlag yn 2016 a daniodd brotestiadau ledled y wlad yn erbyn y llywodraeth.